Mark 2:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ey clypu ’r Iesu ef a ddyvot wrthynt, Nid rait ir ei iach wrth y meddic, amyn i’r clefion. Ny daethy mi y alw ’r ei cyfion, amyn y pechaturieit i edifeirwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed hyn, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid oes rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; eithr i’r rhai drwg eu hwyl. Ni ddaethum i alw cyfiawnion, eithr pechaduriaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd yr Iesu, dywedodd wrthynt, “Nid rhaid i’r cryfion wrth feddyg, ond i’r cleifion; ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, "Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu, pan glybu, a ddywed wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth feddyg, ond y rhai sydd gleifion: ni ddaethum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.