Mark 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ discipulō Ioan a’r Pharisaieit y ymprydynt, ac a ddaethant ac a ddywedesont wrthaw, Pa am yr vmpridia discipulō Ioan ar ei y Pharisaieit ath rei di eb vmprydio?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A byddai disgyblion Ioan, ac y Pharisheaid, yn ymprydio: a daethant a dywedasant Wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan, a disgyblion y Pharisheaid yn ymprydio, ond Dy ddisgyblion Di nid ymprydiant?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio. A deuant a dywedant wrtho, “Paham yr ymprydia disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid, ac nad ymprydia dy ddisgyblion di?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A disgyblion Ioan a'r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio (hynny ydy, peidio bwyta am gyfnod er mwyn ceisio canolbwyntio'n llwyr ar Dduw). Felly dyma rhyw bobl yn gofyn i Iesu, “Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. A daeth rhywrai ato a gofyn iddo, "Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di ddim yn ymprydio?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd Dysgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio. Y maent yn dyfod ac yn dywedyd wrtho, Paham y mae Dysgyblion Ioan a Dysgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dy Ddysgyblion di nid ydynt yn ymprydio?