Mark 2:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a ddyvot wrthynt, A eill plant yr ystafell‐briodas vmpridiaw, tra vo’r Priawt cyd a hwy? tra vo’r Priawt y canthwynt, ny ’s gallant vmprydiaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion yr ystafell briodas, tra ynghyda hwynt y mae’r priodas-fab, ymprydio? Cymmaint amser ag y mae ganddynt y priodas-fab ynghyda hwynt,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas, tra fo’r prïodfab gyda hwynt, ymprydio? Cyhyd ag y mae ganddynt y prïodfab gyda hwynt, ni allant ymprydio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo'r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Dydy pobl ddim yn mynd i wledd briodas i ymprydio! Maen nhw yno i ddathlu gyda'r priodfab. Maen nhw yno i fwynhau eu hunain!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Iesu wrthynt, "A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all meibion y briodas‐ystafell ymprydio, tra y mae y priodas‐fab gyda hwynt? Tra fyddo ganddynt y priodas‐fab gyda hwynt, ni allant ymprydio.