Mark 2:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyt ny wni a nep lain o vrethyn newydd mewn gwisc hen: ac any d ef y llain newydd a dyn ymaith y cyflawnder y gan yr hen, a gwaeth vydd y rhwygiat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oes neb yn gwnio darn o frethyn heb ei bannu at gochl hen: onite, cymmer y cyflawniad oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hen, a rhwyg gwaeth a wneir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni wnïa neb glwt o frethyn crai ar fantell hen; onid e, fe dynn y darn llanw oddiwrthi, y newydd oddiwrth yr hen; a gwaeth rhwyg a fydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Does neb yn trwsio hen ddilledyn gyda chlwt o frethyn newydd sydd heb shrincio. Byddai'r brethyn newydd yn tynnu ar yr hen ac yn achosi rhwyg gwaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ni fydd neb yn gwno clwt o frethyn heb ei bannu ar hen ddilledyn; os gwna, fe dynn y clwt wrth y dilledyn, y newydd wrth yr hen, ac fe 'r rhwyg yn waeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni wnïa neb ddernyn o lain o frethyn cri ar ddilledyn hên: os amgen, y mae yr hyn‐a‐leinw ‐i‐fyny yn tynu oddiwrtho, y newydd oddiwrth yr hên, a gwaeth rhwyg a ddygwydd.