Mark 2:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny ddyd nep win newydd mewn llestri hen: ac any d e y gwin newydd a ddryllia ’r llestri, a’r gwin a gerdd allan, a’r llestri a gollir: eithyr gwin newydd a ddodir mewn llestri newydd ion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid oes neb yn dodi gwin newydd mewn costrelau hen; onite, tyr y gwin y costrelau, ac am y gwin y derfydd, ac am y costrelau: eithr gwin newydd i gostrelau crai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin y crwyn, a’r gwin a gollir, a’r crwyn hefyd. Ond gwin newydd mewn crwyn newydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia'r costrelau, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A does neb yn tywallt gwin sydd heb aeddfedu i hen boteli crwyn. Byddai'r crwyn yn byrstio wrth i'r gwin aeddfedu, a'r poteli a'r gwin yn cael eu difetha. Na, rhaid defnyddio poteli crwyn newydd i'w ddal.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni fydd neb yn tywallt gwin newydd i hen grwyn; os gwna, fe rwyga'r gwin y crwyn ac fe gollir y gwin a'r crwyn hefyd. Ond y maent yn rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni thywallt neb win newydd i hen gostrelau lledr: os amgen, y gwin a rwyga y costrelau lledr, a'r gwin a gollir a'r costrelau lledr: eithr rhaid tywallt gwin newydd i gostrelau lledr newyddion.