Mark 2:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu ac ef yn myned trwy ’r yd ar y dydd Sabbath, vot ei ddiscipulon wrth ymddaith, yn dechrae tyny ’r tywys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu Ei fod ar y Sabbath yn myned trwy’r maesydd yd, a dechreuodd Ei ddisgyblion ymdaith gan dynu’r tywys;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd iddo ar y Sabath dramwy drwy’r meysydd yd, a dechreuodd ei ddisgyblion gerdded rhagddynt dan dynnu’r tywys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu iddo fyned trwy'r ŷd ar y Saboth; a'i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu'r tywys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma'i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un Saboth yr oedd yn mynd trwy'r caeau u375?d, a dechreuodd ei ddisgyblion dynnu'r tywysennau wrth fynd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu iddo ar y dydd Sabbath fyned trwy y meusydd yd; a'i Ddysgyblion ef a ddechreuasant wneyd iddynt lwybr, gan dynu y tywys.