Mark 2:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthynt, A ny ddarllenesoch er ioed pa beth awnaeth Dauid, pan oedd arno eisie, a’ newyn, ef e, a’r ei oedd gyd ac ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Efe wrthynt, Oni fu i chwi erioed ddarllen pa beth a wnaeth Dafydd pan yr oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai gydag ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ebr yntau wrthynt, “Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan ddaeth eisiau arno, a phan newynodd ef a’r rhai oedd gydag ef?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gydag ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthynt, "Onid ydych chwi erioed wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd mewn angen, ac eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Ai ni ddarllenasoch erioed yr hyn a wnaeth Dafydd, pan yr oedd angen arno a chwant bwyd, efe a'r rhai oedd gydag ef?