Mark 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth attaw ’r ei yn dwyn vn claf o’r parlys, a ddygit y gan petwar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant, gan ddwyn Atto ddyn claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deuant ato ag un parlysedig a gludid gan bedwar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daethant ato, gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi ei barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant dyn wedi ei barlysu ato, a phedwar yn ei gario.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a ddaethant ato gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.