Mark 2:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryt na allent ddyvot yn nes ataw gan y dorf, dido i y to a wnaethāt lle ydd oedd ef: a’ gwedy yddwynt ei gloddio trwyddaw, y gellyngesont y lawr vvrth raffe y glwth yn yr hwn y gorweddei ’r dyn a’r parlys arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan na allent nesau Atto o achos y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle’r oedd Efe; ac wedi torri trwodd, gollyngasant i wared y gorwedd-beth ar yr hwn yr oedd y claf o’r parlys yn gorwedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan na allent ei ddwyn hyd ato o achos y dyrfa, didoesant y to lle’r oedd; ac wedi torri trwodd, gollyngant y gwely lle gorweddai’r parlysedig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi'r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai'r claf o'r parlys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw'n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan eu bod yn methu dod 'r claf ato oherwydd y dyrfa, agorasant do'r tu375? lle'r oedd, ac wedi iddynt dorri trwodd dyma hwy'n gollwng i lawr y fatras yr oedd y claf yn gorwedd arni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan na allent neshâu ato ef o herwydd y dyrfa, didoi y tô a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dori trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely ar yr hwn y gorweddai y claf o'r parlys.