Mark 2:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weles yr Iesu y ffydd wy, y dyvot wrth y claf o’r parlys, ha Vap, myddeuwyt yty dy pechotae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, dywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd dy bechodau di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan weled o’r Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywed wrth y parlysedig, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu'r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi eu maddau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, "Fy mab, maddeuwyd dy bechodau."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu, yn gweled eu ffydd hwy, a ddywed wrth y claf o'r parlys, O Fab! maddeuir dy bechodau.