Mark 2:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ebrwydd pan wybu ’r Iesu yn ei yspryt, yddwynt veddwl val hyn ynthyn y unain, y dyvot wrthynt, Pa ’r a ymrysymy ydd ych ar y pethae hyn yn eich calonae?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn uniawn, gan weled o’r Iesu yn Ei yspryd mai felly yr ymresymment ynddynt eu hunain, dywedodd wrthynt, Paham y mae’r ymresymmiadau hyn genych yn eich calonau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna gwybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, a dywed wrthynt, “Paham yr ymresymwch fel hyn yn eich calonnau?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn ebrwydd, pan wybu'r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod yn iawn mai dyna oedden nhw'n ei feddwl, ac meddai wrthyn nhw, “Pam dych chi'n meddwl mod i'n cablu?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Deallodd Iesu ar unwaith yn ei ysbryd eu bod yn meddwl felly ynddynt eu hunain, ac meddai wrthynt, "Pam yr ydych yn meddwl pethau fel hyn ynoch eich hunain?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn ebrwydd a'r Iesu yn gwybod yn ei yspryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywed wrthynt, Paham yr ymresymwch y pethau hyn yn eich calonau?