Mark 2:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa vn hawsaf ai dywedyt wrth y claf o’r parlys, Maðeuwyt yty dy pechote? ai dywedyt, Cyvot, a’ chymer ymaith dy lwth a’ rhodia?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, “Maddeuwyd dy bechodau,” neu ddywedyd, “Cyfod, a chymmer i fynu dy orweddfa, a rhodia?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y parlysedig, ‘Maddeuwyd dy bechodau,’ ai dywedyd, ‘Cyfod a chymer dy wely a rhodia’?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Beth ydy'r peth hawsaf i'w ddweud wrth y dyn — ‘Mae dy bechodau wedi eu maddau,’ neu, ‘Cod ar dy draed, cymer dy fatras a cherdda’?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Prun sydd hawsaf, ai dweud wrth y claf, 'Maddeuwyd dy bechodau', ai ynteu dweud, 'Cod, a chymer dy fatras a cherdda'?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa un hawddach, dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuir dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fyny dy wely, a rhodia?