Mark 3:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ysprytion aflan pan welsant ef, a gwympesont i lawr geyr ei vron, ac a waeddesant, gan ddywedyt, Ti yw ’r Map Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r ysprydion aflan, pan Ef a welent, a syrthient i lawr ger Ei fron ac a waeddent,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r ysbrydion aflan, pa bryd bynnag y gwelent ef, syrthient ger ei fron, a gwaeddent, gan ddywedyd, “Ti yw Mab Duw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A phan oedd pobl wedi eu meddiannu gan ysbrydion drwg yn ei weld, roedden nhw'n syrthio ar lawr o'i flaen a gweiddi, “Mab Duw wyt ti!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, "Ti yw Mab Duw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r ysprydion aflan, pa bryd bynag y syllent arno, a syrthient ger ei fron ef, ac a waeddent, gan ddywedyd, Tydi ydwyt Fab Duw.