Mark 3:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ei ysdwrdiawdd yn ddirvawr, rac yddyn y gyhoeddy ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan ddywedyd, Tydi wyt Fab Duw: a llawer y dwrdiodd Efe hwynt na wnaent Ef yn amlwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhybuddiai lawer arnynt nas amlygent ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Iesu'n eu rhybuddio nhw i beidio dweud pwy oedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio 'i wneud yn hysbys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a waharddodd iddynt yn llym nas gwnelent ef yn adnabyddus.