Mark 3:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glypu ei gyfnesafsieit, wy aethan allan y ymavlyd ynthaw: can ty bieit y vot ef o ddyeithr ei bwyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed o’i berthynasau, aethant allan i’w ddal Ef, canys dywedasant, Allan o’i bwyll y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd ei berthynasau, aethant ymaith i’w ddal; canys dywedent, “Y mae wedi gwallgofi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu'r eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o'i bwyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw'n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae'n wallgof”, medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, "Y mae wedi colli arno'i hun."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu ei berthynasau ef, hwy a aethant allan i'w ddal ef; canys dywedent, Y mae efe allan o bwyll.