Mark 3:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Gwyr‐llen a ddaethent o Caerusalem, a ddywedesont, vot Beelzebub gantaw, ac mai trwy pennaeth y cythraelieit y bwrei allā gythraelieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i wared o Ierwshalem, a ddywedasant, Beelzebub sydd Ganddo, a thrwy bennaeth y cythreuliaid y bwrw Efe allan y cythreuliaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r ysgrifenyddion a ddeuthai i lawr o Gaersalem a ddywedai, “Beelsebwl sydd ganddo”; a hefyd, “trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi ei feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, "Y mae Beelsebwl ynddo", a, "Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Ysgrifenyddion, y rhai a ddaethant i waered o Jerusalem, a ddywedasant, Y mae Beelzebwl ganddo, ac, Trwy Dywysog y Cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan y Cythreuliaid.