Mark 3:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys a bydd teyrnas wedy r’ ymranny yn y h erbyn ehun, ny d all y deyrnas houo sefyll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os teyrnas yn ei herbyn ei hun a ymranno, nid oes bosibl sefyll o’r deyrnas honno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac, “Os teyrnas a ymranna yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o bydd teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas hono sefyll.