Mark 3:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly a’s cyfyt Satan yn y erbyn hun, ac ymranny, ny all ef barhay, amyn bod tervyn iddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os Satan a gododd yn ei erbyn ei hun ac ymrannu o hono, ni all sefyll, ond diwedd sydd iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac ymrannu, ni ddichon sefyll, eithr dyna ddiwedd arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi ei rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os Satan a gyfododd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymranu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.