Mark 3:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny ddygon nep vyned y mewn i tuy yr cadarn a’ dwyn ymaith ei lestri, dyeithr iddo yn gyntaf rwymo yr cadarn hwnw, ac yno yspeilio ei duy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr ni fedr neb, wedi myned i mewn i dŷ’r cadarn, yspeilio ei dda ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn, ac yna ei dŷ ef a yspeilia efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr ni ddichon neb fynd i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio’i ddodrefn ef, oni rwymo’r cadarn yn gyntaf, ac yna’r ysbeilia’i dŷ ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ'r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eithr ni all neb fynd i mewn i du375?'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i du375? ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr ni ddichon neb, wedi myned i fewn i dŷ y cadarn, ysbeilio ei lestri ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo y cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.