Mark 3:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
an’d pwy pynac a gabl yn erbyn yr yspryt glan ny chaiff vaddeuant yn dragyvyth, any’d bot yn euoc y varn dragyvythawl,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond pwy bynnag a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr euog ydyw o dragwyddol bechod.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Gln, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, nid oes iddo faddeuant yn dragywydd, eithr y mae efe mewn perygl o bechod tragywyddol: