Mark 3:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r popul a eisteddawdd oei amgylch ef, ac a ddywedesont wrthaw, Nycha, dy vam, a’th vroder yn dy geisiaw allan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac eisteddai tyrfa o’i amgylch Ef, a dywedasant Wrtho, Wele, Dy fam a’th frodyr Di tu allan a’th geisiant Di.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac eisteddai torf o’i gylch, a dywedant wrtho, “Dyma dy fam a’th frodyr oddi allan yn dy geisio.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr allan yn dy geisio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tyrfa yn eistedd o'i gwmpas, a dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, "Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thyrfa a eisteddent o'i amgylch ef, ac a ddywedant wrtho, Wele y mae dy fam a'th frodyr y tu allan, yn dy geisio di.