Mark 3:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ai cyfreithlawn gwneythy tvvrn da ar y dydd sabbath, ai gwneiythy drwc? cadw enaid ai lladd? Ac wyth eu a dd ystawsont.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Ai cyfreithlawn yw ar y Sabbath wneuthur da, neu ynte wneuthur drwg? cadw einioes neu ladd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac eb ef wrthynt hwy, “A ddylid ar y Sabath wneuthur da, ai gwneuthur drwg? achub einioes, ai lladd?” Ond tewi a wnaent hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd wrthynt, "A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?" Yr oeddent yn fud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywed wrthynt, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath gwneuthur da, ynte gwneuthur drwg? Cadw einioes, ynte lladd? Eithr hwy a dawsant.