Mark 3:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd edrychawdd ef o y amgylch arn add ynt yn dddigllawn can gyd‐doluriaw rrac caledrwydd y calon ae hwy, ac a ddyvot, wrth y dyn, Esten d dy law. Ac ef ei esten d awdd: aei law a adverwyt yn iach val y llall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a dawsant. Ac wedi edrych o amgylch arnynt gyda digter, gan ei boeni am galedrwydd eu calon, dywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law; ac estynodd efe hi allan, ac adferwyd ei law ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi syllu ogylch arnynt yn ddigllon, gan ddwys-ofidio am ddallineb eu calon hwynt, fe ddywed wrth y dyn, “Estyn dy law.” Ac fe’i hestynnodd, ac adferwyd ei law.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynnodd: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un — roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, "Estyn dy law." Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi edrych oddiamgylch arnynt gyda digllonedd, gan dristhau am galedrwydd eu calonau, efe a ddywed wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ae efe a'i hestynodd, a'i law ef a adferwyd.