Mark 4:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ef a ddechreawdd drachefyn precethy yn‐glā y mor, a’ thyrfa vawr a ymglascawdd ataw, yn ydaeth ef y long, ac eistedd yn y mor, a’r oll popul oedd ar y tir wrth y mor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thrachefn y dechreuodd ddysgu yn ymyl y môr; ac ymgasglodd Atto dyrfa ddirfawr, fel y bu Iddo, wedi myned i’r cwch, eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa, yn ymyl y môr, ar y tir yr oeddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A thrachefn dechreuodd ddysgu ar lan y môr; ac ymgasgla ato dyrfa ddirfawr, nes iddo fynd i long, ac eistedd ynddi ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dechreuodd Iesu ddysgu'r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn, tra roedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dechreuodd ddysgu eto ar lan y mr. A daeth tyrfa mor fawr ynghyd ato nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch ar y mr; ac yr oedd yr holl dyrfa ar y tir wrth ymyl y mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thrachefn efe a ddechreuodd ddysgu ar làn y môr; a thyrfa fawr iawn a ymgasgla ato, yn gymmaint ag iddo fyned i'r cwch, ac a eisteddodd yn y môr; a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tir.