Mark 4:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar vn ffynyt yr ei a dd erbyniant yr had yn y tir caregawc, yw ’r ei hyny, y sawl gwedy yddyn glywed y gair, yn y man y d erbyniant ef gyd a llewenydd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai hyn ydynt, yr un ffunud, y rhai a hauwyd ar y creigleoedd, y rhai pan glywont y Gair, yn uniawn gyda llawenydd y derbyniant ef,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r rhain yr un modd yw’r rhai a heuir ar y creigleoedd, y rhai, wedi y clywont y gair, yn ebrwydd â llawenydd a’i derbyn ef;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai hyn yr un ffunud yw'r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn yr had gafodd ei hau ar dir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma'r rhai sy'n derbyn yr had ar dir creigiog: pan glywant hwy'r gair, derbyniant ef ar eu hunion yn llawen;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai hyn, yr un modd, yw y rhai a hauir ar y creigleoedd, y rhai pan glywant y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef gyda llawenydd,