Mark 4:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac nid nes yddyn wraidd ynthyn y h unain, ac velly dros amser ydd ynt: yno pan goto gorthrymder ac ymlit o bleit y gair eb ohir y rhwystrir wy,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr am amser y maent: wedi hyny, pan gyfodo blinder neu erlid o achos y Gair, yn uniawn y tramgwyddir hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros ennyd y maent; yna pan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y meglir hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw go iawn, a dŷn nhw ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am eu bod wedi credu, maen nhw'n troi cefn yn ddigon sydyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, a thros dro y maent yn para. Yna pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwympant ar unwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros dymhor y maent; yna pan ddêl gorthrymder, neu erlid o achos y gair, yn ebrwydd y rhwystrir hwynt.