Mark 4:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
and bot gafalon y byd hwn, a’ somiant golud a’ chwantae pethae ereil’ yn dyvot y mewn ac yn tagy ’r gair, ac ei gwneir ef yn ðiffrwith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai hyn yw y rhai a glywant y Gair, a phryder y byd a thwyll golud, ac y chwantau am y pethau eraill, gan ddyfod i mewn, a dagant y Gair; ac yn ddiffrwyth y mae efe yn myned.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a phryderon y byd, a hudoliaeth golud, a’r chwantau ynghylch y cyffelyb bethau, a ddaw i mewn, ac a dag y gair; a diffrwyth fydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu'r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond maen nhw'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn eu bywydau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond y mae gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o'r fath yn dod i mewn ac yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac y mae gofalon yr oes, a thwyll golud, a'r chwantau am y pethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu y gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.