Mark 4:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyd e ddyvot wrthynt, A ðaw canwyll yw gesot y dan vail a y dā y vort, ac ni d yw gesot ar gannwyllbren?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, A fydd y llusern yn dyfod fel tan y llestr y’i doder, neu dan y gwely? Onid fel ar safle’r llusern y’i doder?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai wrthynt, “Tybed a ddaw’r gannwyll i’w dodi dan y celwrn neu dan y gwely? Onid i’w dodi ar y canhwyllbren?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i'w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd wrthyn nhw wedyn, “Ydych chi'n mynd â lamp i mewn i ystafell ac yna'n rhoi powlen drosti neu'n ei chuddio dan y gwely? Na, dych chi'n gosod y lamp ar fwrdd iddi oleuo'r ystafell.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt, "A fydd rhywun yn dod channwyll i'w dodi dan lestr neu dan wely? Onid yn hytrach i'w dodi ar ganhwyllbren?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw y llusern er ei gosod dan y llestr‐mesur, neu o dan y gwely? Ai nid er ei gosod ar y daliadyr?