Mark 4:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthynt, Gwiliwch pa beth a glywwch. A pha vesur y mesuroch, y mesurir y chwi the: ac y chwi yr ei a glywch y rhoðir y chwanec.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Edrychwch pa beth a glywch. A pha fesur y mesurwch, y mesurir i chwi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai wrthynt, “Edrychwch beth a wrandewch. Â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwithau, a chwaneg a roddir i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna aeth yn ei flaen i ddweud “Gwyliwch beth dych chi'n gwrando arno. Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi — a mwy!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt hefyd, "Ystyriwch yr hyn a glywch. 'r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandewch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwi, ac yr ychwanegir i chwi.