Mark 4:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys i hwn ysy gantho, y roddir yddaw, a’ chan hwn ny d oes, y dugir y arno, meint ac ysy ganthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a rhoddir yn ychwaneg i chwi; canys yr hwn sydd a chanddo, rhoddir iddo; a’r hwn sydd heb ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw'n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddiarno.