Mark 4:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd ef yn y pen‐ol‐ir‐llong, yn cyscu ar ’obenydd: ac wy ei dihunasont, ac a ddywedesont wrthaw, Athro, Anyd gwaeth genyt er ein colli ni?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac Efe oedd yn y pen ol i’r cwch, yn cysgu ar y gobennydd. A deffroisant Ef, a dywedasant Wrtho, Athraw, onid gwaeth Genyt ein bod ar ddarfod am danom?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ef oedd yn y pen ol ar y gobennydd yn cysgu; a dihunant ef, a dywedant wrtho, “Athro, ai difater gennyt ein colli ni?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd efe yn y pen ôl i'r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a'i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd Iesu'n cysgu'n drwm drwy'r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma'r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni'n mynd i foddi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd ef yn starn y cwch yn cysgu ar glustog. Deffroesant ef a dweud wrtho, "Athro, a wyt ti'n hidio dim ei bod ar ben arnom?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd efe ei hun yn y rhan ol o'r cwch, yn cysgu ar obenydd; ac y maent yn ei ddeffro ef, ac yn dywedyd wrtho, Athraw, ai difater genyt ein colli ni?