Mark 4:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a gyfodes y vyny dd, ac a ysdwrdiodd y gwynt, ac o ddyvot wrth y mor, ys Taw, nag yngan. Yno y goystegawdd y gwynt, ac hi aeth yn daweel vvch mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi codi o Hono, dwrdiodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, Gostega; distawa. A pheidiodd y gwynt; a bu tawelwch mawr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac fe ddeffrôdd, a cheryddodd y gwynt, a dywedodd wrth y môr, “Ust! taw!” A gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cododd Iesu a cheryddu'r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe ddeffrdd a cheryddu'r gwynt a dweud wrth y mr, "Bydd ddistaw! Bydd dawel!" Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a lawn‐ddeffrôdd, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a beidiodd, a bu tawelwch mawr.