Mark 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan godaw haul, y gwresogwyt ef, a’ chan nad oedd yddo wreiddyn, y tra gwywawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a phan gododd yr haul, llosgwyd ef; a chan nad oedd ganddo wreiddyn, gwywodd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan gododd yr haul, fe’i deifiwyd; ac am nad oedd iddo wreiddyn, fe wywodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a phan gododd yr haul fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gododd yr haul, crasboethwyd ef, ac o herwydd nad oedd iddo wreiddyn, efe a wywodd.