Mark 4:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ pheth arall a gwympiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth ac a eginawdd i vyny dd, ac a dyfawdd, ac a dduc, peth ar ei ðecfed ar vgain, peth ar ei drugainvet, a’ pheth ar ei ganvet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac eraill a syrthiasant ar y tir da; a rhoddasant ffrwyth, gan dyfu i fynu a chynnyrchu; a dygasant, yn ddeg ar hugain, ac yn dri ugain, ac yn gant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac eraill a syrthiodd i’r tir da; a rhoent ffrwyth yn dyfadwy a thoreithiog; a chnydient hyd ddeg-ar-hugain, a hyd drigain, a hyd gant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno — cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A syrthiodd hadau eraill ar dir da, a chan dyfu a chynyddu yr oeddent yn ffrwytho ac yn cnydio hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac arall a syrthiodd i'r tir da, ac a ddug ffrwyth tyfadwy a chynnyrchiol, ac a ddug i fyny i ddeg‐ar hugain, ac i fyny i dri‐ugain, ac i fyny i gant.