Mark 5:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef ei gweddiawdd yn vawr, na dd anvonei ef ddim hanynt allan o’r wlat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ymbiliodd ag Ef yn ddirfawr, na yrrai mo honynt allan o’r wlad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac erfyniai arno lawer nas gyrrai hwynt allan o’r wlad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n crefu ar i Iesu i beidio eu hanfon nhw i ffwrdd o'r ardal honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio 'u gyrru allan o'r wlad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddwys‐ymbiliodd lawer ag ef, na ddanfonai efe hwynt allan o'r wlad.