Mark 5:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yno yn y mynyddae genvaint vawr o voch yn pori.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yno ar y mynydd genfaint fawr o foch, yn pori.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd yno wrth y mynydd genfaint fawr o foch yn pori;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yno wrth y mynydd genfaint fawr o foch yn ymborthi.