Mark 5:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn y man y rhoes yr Iesu gennad yddwynt. Yno ydd aeth yr ysprytion aflan y maes, a’ myned y mewn ir moch, a’ rhedec o’r genvaint bendro‐mwnwgl o dd iar y gaulan i’r mor, (ac yð oeddent yn‐cylch dwyvil ovoch) ac eu bodwyt yn y mor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chaniattaodd Efe iddynt. Ac wedi dyfod allan, yr ysprydion aflan a aethant i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint i lawr y dibyn, i’r môr, ynghylch dwy fil o honynt, a thagwyd hwy yn y môr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chaniataodd iddynt. Ac allan yr aeth yr ysbrydion aflan, ac i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr — tua dwy fil; a boddent yn y môr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A'r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw fynd, ac allan a'r ysbrydion drwg o'r dyn ac i mewn i'r moch. Dyma'r moch i gyd, tua dwy fil ohonyn nhw, yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe ganiataodd iddynt. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r mr, tua dwy fil ohonynt, a boddi yn y mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ganiataodd iddynt. A'r ysprydion aflan a ddaethant allan, ac a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr — ynghylch dwy fil — a hwy a dagwyd yn y môr.