Mark 5:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r meichieid a ffoesont, ac a venagesont hyny yn y dinas, ac yn y wlat,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai a’u porthent a ffoisant ac a fynegasant y peth yn y ddinas ac yn y wlad; a daethant hwy i weled pa beth oedd yr hyn a ddigwyddasai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’u porthwyr hwynt a ffodd, ac a’i mynegodd yn y ddinas ac yn y wlad; a deuthant i weled beth oedd yr helynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb ym mhobman beth oedd wedi digwydd. Pan ddaeth y bobl allan at Iesu i weld drostyn nhw eu hunain,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad, a daeth y bobl i weld beth oedd wedi digwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai a'u porthent hwy a ffoisant, ac a'i mynegasant i'r ddinas, ac i'r lleoedd gwledig: a hwy a aethant allan i weled beth oedd yr hyn a wnaethid.