Mark 5:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ wy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant yr vn a vesei yn gythraelic, ac a lle n g ynddaw, yn eistedd ac yn wiscedic, ac yn ei iawn synwyr: ac ofny a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daethant at yr Iesu, a gwelsant y cythreulig yn ei eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, yr hwn a fuasai â’r lleng ynddo; ac ofnasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deuant at yr Iesu, a sylwant ar y cythreulig yn eistedd yn ei ddillad ac yn ei iawn bwyll, hwnnw y buasai’r lleng ynddo; ac ofnasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai'r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
roedden nhw wedi dychryn. Dyna lle roedd y dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid, yn eistedd yn dawel gyda dillad amdano ac yn ei iawn bwyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant at Iesu a gweld y dyn, hwnnw yr oedd y lleng cythreuliaid wedi bod ynddo, yn eistedd 'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn dyfod at yr Iesu, ac yn dal sylw ar y cythreulig, yn eistedd, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll, ie, yr hwn yr oedd wedi bod ynddo y Lleng; a hwy a ofnasant.