Mark 5:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei a ei gwelawdd, a venegawdd yddwynt, pa beth a wneithit i’r vn y bysei ’r cythrael ynthaw, ac am y moch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrthynt y mynegodd y rhai a welsent, pa fodd y digwyddasai i’r cythreulig, ac am y moch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac adroddodd y rhai a’i gwelsai wrthynt pa fodd y digwyddodd hi i’r cythreulig, ac am y moch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i'r dyn a'r moch,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Adroddwyd wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld beth oedd wedi digwydd i'r dyn ym meddiant cythreuliaid, a'r hanes am y moch hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai a welsant a draethasant iddynt, y modd y dygwyddodd i'r cythreulig, ac ynghylch y moch.