Mark 5:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy iddo vyned y mewn llong, y gweddiawdd arnaw yr hwn a vesei’r cythrael yntho, ar gael bot y gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fyned o Hono i’r cwch, ymbiliodd y gynt-gythreulig ag Ef am iddo fod gydag Ef;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth iddo fynd i’r llong, erfyniai’r hwn a fuasai gythreulig arno am gael bod gydag ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasai'r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i'r cwch, dyma'r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth iddo fynd i mewn i'r cwch, yr oedd y dyn a oedd wedi bod ym meddiant y cythreuliaid yn erfyn arno am gael bod gydag ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe yn myned i'r cwch, yr hwn a fu gythreulig a ymbiliodd ag ef i gael bod gydag ef.