Mark 5:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu ny oddefawdd yddaw, eithyr dywedyt wrthaw, Dos ymaith ith tuy, at yr ei sy i ti, a’ menag yddynt pa ueint bethae a wnaeth yr Arglwydd y‐ty, a’ phodd y trugarhaodd wrthyt’.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond ni adawodd Efe iddo, eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ, at dy berthynasau, a mynega iddynt pa faint o bethau y bu i’r Arglwydd eu gwneuthur erot ti, a thrugarhau o Hono wrthyt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni adodd iddo, eithr medd ef wrtho, “Dos adref at dy bobl, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot ac a dosturiodd wrthyt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni adawodd iddo, ond meddai wrtho, "Dos adref at dy bobl dy hun a mynega iddynt gymaint y mae'r Arglwydd wedi ei wneud drosot, a'r modd y tosturiodd wrthyt."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni adawodd efe iddo, ond efe a ddywed wrtho, Dos i'th gartref at dy gyfeillion, a mynega iddynt pa bethau gymmaint y mae yr Arglwydd wedi eu gwneyd i ti, ac iddo drugarhau wrthyt.