Mark 5:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy myned yr Iesu trosodd mewn llong i’r tu arall, ydd ymgasclawdd tyrfa vawr ataw, ac ydd oedd ef wrth ’lan y mor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned trosodd o’r Iesu yn y cwch, yn Ei ol, i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr Atto: ac yr oedd Efe wrth y môr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi croesi o’r Iesu yn y llong drachefn i’r ochr arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd ef wrth y môr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i'r Iesu drachefn fyned mewn llong i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i Iesu groesi mewn cwch yn ôl i ochr arall Llyn Galilea, dyma dyrfa fawr yn casglu o'i gwmpas ar lan y dŵr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Iesu groesi'n l yn y cwch i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi i'r Iesu groesi trosodd drachefn yn y cwch i'r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato, ac yr oedd efe wrth y môr.