Mark 5:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac adolwyn yn vawr yddaw, gan ddywedyt, Y mae vy merch ym‐brō marw: adolvvyn yty ddyvot a dody dy law arni, val ydd iachaer hi, a’i byw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ymbiliodd ag Ef lawer, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd ar drangc: attolwg i Ti ddyfod a dodi dy ddwylaw arni, fel yr iachaer hi a byw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac erfyn lawer arno, gan ddywedyd, “Fy merch fach sydd ar dranc; tyred, a dod dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi ac y bo byw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a phledio'n daer, “Mae fy merch fach i'n marw. Plîs tyrd i'w hiacháu drwy roi dy ddwylo arni, iddi gael byw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ymbil yn daer arno: "Y mae fy merch fach," meddai, "ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae efe yn dwys‐ymbilio lawer ag ef, gan ddywedyd, Fy merch fechan sydd bron marw: gwna ddyfod fel y gosodi dy ddwylaw arni, fel yr achuber hi, ac y bydd fyw.