Mark 5:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth ef cantho, a’ thorf vawr ei dilynawð, ac y gwascasont ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aeth Efe ymaith gydag ef; a chanlynai tyrfa fawr Ef, a gwasgent Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth ymaith gydag ef. A chanlynai tyrfa fawr ef, a gwasgent arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwasgasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly aeth Iesu gyda'r dyn. Roedd tyrfa fawr o bobl o'i gwmpas yn gwthio o bob cyfeiriad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac aeth Iesu ymaith gydag ef. Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a aeth gydag ef; a thyrfa fawr a'i canlynodd ef, ac a wasgasant arno.