Mark 5:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddyoddefesei lawer edd gan lawer o veddigon, ac a drauliesei gymeint ac oeð ar ei helw, ac eb lesy dim iddi, ’namyn y myned hi yn vwy gwaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac a ddioddefasai lawer gan lawer o feddygon, ac a dreuliasai yr oll oedd ar ei helw, ac heb ei llesau ddim, eithr yn waeth-waeth yr elsai,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi dioddef llawer gan lawer o feddygon, a gwario’r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles, ond yn hytrach mynd yn waeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd hi wedi dioddef yn ofnadwy dan ofal llawer o feddygon, ac wedi gwario ei harian i gyd ar gael ei thrin, ond yn lle gwella roedd hi wedi mynd o ddrwg i waeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd wedi dioddef yn enbyd dan driniaeth llawer o feddygon, ac wedi gwario'r cwbl oedd ganddi, a heb gael dim lles ond yn hytrach mynd yn waeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a ddyoddefodd lawer dan lawer o feddygon, ac a dreuliodd yr oll oedd ganddi, ac ni chafodd unrhyw leshâd, ond yn hytrach yr oedd yn waeth,