Mark 5:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r wreic gan ofny a’ chryny: can ys‐hi a wyddiat beth a wnathesit ynthei, a ddaeth ac a gwympoð geyr y vron ef ac a ðyvot iðo yr oll wirioneð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a ddigwyddasai iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger Ei fron Ef, ac a ddywedodd Wrtho yr holl wirionedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y wraig, wedi brawychu ac yn crynu, yn gwybod beth a ddarfuasai iddi, a ddaeth, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd wrtho’r holl wir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y wraig yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd iddi, ac felly dyma hi'n dod ac yn syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Dwedodd yr hanes i gyd wrtho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod yr hyn a wnaethid iddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd.