Mark 5:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ðyvot wrthi, Ha verch, dy ffyð ath iachoað cerða yn tangneðyf, a’ byð iach oth pla.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd di; dos mewn heddwch, a bydd iach o’th darawiad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthi, “Ferch, dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd, a bydd iach o’th bla.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna meddai e wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae'r dioddef ar ben.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau wrthi hi, "Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iachu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthi, Ferch, dy ffydd a'th iachaodd; dos mewn heddwch, a bydd holliach o'th glefyd.