Mark 5:36 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er cynted y clypu ’r Iesu adroð y gair hwnw, y dyvot ef wrth bēnaeth y synagog, Na d ofna: cred yn vnic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu, gan esgeuluso gwrando y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth yr arch-sunagogydd, Nac ofna, yn unig cred;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr Iesu, wedi digwydd clywed ohono lefaru’r gair, a ddywed wrth yr archsynagogydd, “Paid ag ofni; yn unig cred.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond chymerodd Iesu ddim sylw o beth gafodd ei ddweud, dim ond dweud wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, "Paid ag ofni, dim ond credu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu wedi dygwydd clywed y gair a ddywedasid, a ddywed wrth Brif‐lywodraethwr y Synagog, Nac ofna, yn unig cred.