Mark 5:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef aeth y mywn, ac a ddyvot wrthynt, Pa dyrfu, ac wylo ydd ych? ny bu varw yr dyn‐bach, amyn hunaw y mae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned i mewn, dywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac y gwylwch. Y plentyn ni fu farw, eithr cysgu y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth i mewn, a dywed wrthynt, “Paham y terfysgwch ac yr wylwch? Ni bu’r plentyn farw, eithr cysgu y mae.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw'r eneth, eithr cysgu y mae.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth Iesu i mewn dwedodd wrthyn nhw, “Beth ydy'r holl sŵn yma? Pam dych chi'n crïo? Dydy'r ferch fach ddim wedi marw — cysgu mae hi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi mynd i mewn dywedodd wrthynt, "Pam yr ydych yn llawn cynnwrf ac yn wylo? Nid yw'r plentyn wedi marw, cysgu y mae."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywed wrthynt, Paham y gwnewch gynhwrf, ac yr wylwch? Ni fu farw y plentyn, eithr huno y mae.